Family Attraction Newyddion Gelli Gyffwrdd Family Fun

Sarah Savoy a'r Francadians.

Ar y 1af o fis Awst, cafodd y Gelli Gyffwrdd y pleser o gyfarfod Sarah Savoy a’i band ‘Cajun’. Mae’r band yn wreiddiol o Louisiana yn America, ac maent ar hyn o bryd yn teithio ar hyd a lled Prydain. Cafodd y band groeso gwresog wrth iddynt gymryd seibiant o’r teithio, a pherfformio i gwsmeriaid y Gelli Gyffwrdd.


Apwyntiad cyntaf Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant Cymru ... a hynny yn y Gelli Gyffwrdd.

 Ar ddydd Llun, yr 28ain o Orffennaf, roedd y Gelli Gyffwrdd yn hynod falch o allu croesawu’r Gweinidog Treftadaeth a Diwylliant newydd yng Nghymru, sef Alun Ffred Jones, a hynny yn ystod ei apwyntiad swyddogol cyntaf.

Roedd y Gweinidog, sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros Arfon,  yn ymweld â’r Parc yng nghwmni Jonathan Jones, Prif Weithredwr Croeso Cymru, er mwyn cwrdd â Stephen ag Andrea Bristow ac aelodau eraill o staff y Gelli Gyffwrdd. Tra yn y Parc fe fu’r Gweinidog yn teithio ar y Reid Fawr y Ddraig Werdd. ‘ Roedd hi’n bleser cael croesawu’r Gweinidog newydd i’r Gelli Gyffwrdd ac yr ydym yn dymuno’r gorau iddo yn ei swydd newydd’  meddai Stephen, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gelli Gyffwrdd.

 


Ffrwydrad ym myd yr adar lliwgar! 

Ers i ddeg Bwji lliwgar gyrraedd y Gelli Gyffwrdd ar ddiwedd mis Mawrth eleni, mae’n braf cael dweud eu bod wedi ymgartrefu’n dda ac wedi dod yn atyniad poblogaidd gyda’r teuluoedd sydd yn ymweld â’r Parc. Bellach maent wedi paru, ac wedi cael teuluoedd eu hunain. Mae naw cyw bach wedi deor o’r wyau yn y misoedd diwethaf, sy’n golygu fod y Gelli Gyffwrdd wedi profi ffrwydrad ym myd y Bwjis!

Yn y llun hwn y mae Leslie, sy’n gofalu am yr holl adar a’r anifeiliaid yn y Gelli Gyffwrdd.


Pen-blwydd Hapus!

 

Eleni mae’r Gelli Gyffwrdd yn 15 oed, ac mae’r Parc wedi datblygu’n arw yn ystod y cyfnod hwn. Ar y cychwyn, sef yn 1993, Canolfan Addysgol  oedd y Parc ond ers hynny y mae pethau wedi newid a datblygu er mwyn ateb gofynion yr ymwelwyr, ac yn 2004 fe newidiwyd yr enw i Barc Coedwig Gelli Gyffwrdd a daeth yn Barc Antur Teuluol. Er yr holl newidiadau nid yw’r Gelli Gyffwrdd erioed wedi anghofio’r neges ganolog sy’n rhoi pwyslais ar Gynaliadwyaeth, Ymwybyddiaeth Amgylcheddol a’r addewid i leihau'r ôl troed carbon lle bynnag y mae hynny’n bosib. Er mwyn gweld y math o waith sy’n cael ei wneud yma - darllenwch ein Tudalen Werdd.


Ac allan o’r coed y daethant... 

Ar Ddydd Llun Gwyl y Banc daeth y Gwr Gwyrdd a’r Fam Natur i’r Gelli Gyffwrdd.  Bu’r cerddwyr ar stiltiau yn cyfarch pobl oedd yn cael hwyl ddi-ben-draw yn y Parc.

 Roedd hyd yn oed Harley ; cwningen  Gelli Gyffwrdd, am gael y cyfle i ddweud helo!

 Fe ddaeth  aelodau Ymddiriedolaeth Gwlad y Tylwyth Teg yma’r holl ffordd o Norfolk i fod yma ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher, a hynny er mwyn cynnal gweithdai  hudlath ag adenydd pili palas yn eu pabell hyfryd. Os oes unrhyw un wedi tynnu lluniau o’r gweithgareddau hyn, yna buasem yn falch iawn o’u  gweld!  E-bostiwch nhw.

Ein cyfeiriad yw info@greenwoodforestpark.co.uk


Dyma lun o Megan Pritchard gyda’i thatw ‘Lookachu’,  fu’n ymweld â’r Parc gyda’i Nain a’i Thaid ar ddydd Gwener braf yn ystod y Sulgwyn.

 

 

 

 

 


Syrpreis bach yn y post!  

Fe benderfynodd  iâr Titw Tomos Las fod  blwch postio Ty Coed yn y Gelli Gyffwrdd yn gwneud gwell nyth o’r hanner na chartref mewn coeden!  Bydd y cywion yn barod i hedfan o’r nyth cyn bo hir ac efallai y down yn ôl i’r blwch postio’r flwyddyn nesaf!

Yn y cyfamser mae llythyrau ar gyfer Ty Coed wedi eu hailgyfeirio.

Er mwyn gweld mwy o luniau’r cywion bach, cliciwch yma.


Llwyddiant ysgubol fu Penwythnos Gwyl y Banc yn y Gelli Gyffwrdd, a chawsom gyfle i groesawu nifer o deuluoedd a oedd yn hapus dros ben i weld yr haul yn tywynnu o’r diwedd! Er i ni gael cawod neu ddwy ar ddydd Sadwrn, ni amharwyd ar y gweithgareddau, ac ar ddiwedd y pnawn, fe ddaeth yr haul allan unwaith eto.

 Codwyd y Fedwen Fai yn arbennig ar gyfer penwythnos Gwyl y Banc, ac roedd pawb oedd yn llawn o ysbryd y gwanwyn  wedi rhoi cynnig ar ddawnsio o’i chwmpas!

 Ymhlith yr ymwelwyr i’r Parc ar y dydd Sadwrn,  roedd Geidiau Sir Gaernarfon, a oedd yn aros yng Ngwersyll y Sir yng Nghaeathro ger Caernarfon. Roedd perfformiad y genod o gwmpas y Fedwen Fai yn un arbennig iawn.

 Er mwyn gweld pa weithgareddau eraill sydd wedi eu cynllunio ar eich cyfer, ewch i weld y dudalen gweithgareddau ar ein gwefan.


Ymwelwyr o Bortiwgal yn Y Gelli Gyffwrdd

Yn ddiweddar daeth ymwelwyr o Bortiwgal i Gymru am ddiwrnod i ddysgu mwy am y Parc a’r gweithgareddau sydd yma.

Bedair blynedd yn ôl daeth Jorge Lira, pensaer o Bortiwgal a’i deulu i’r Gelli Gyffwrdd fel rhan o lwybr twristiaeth leol, a chafodd ei syfrdanu gan yr hyn a welodd.  “Mae syniadau Stephen Bristow sy’n sylfaen i bopeth yn y Gelli Gyffwrdd wedi fy ysbrydoli, a byddaf yn dychwelyd i Bortiwgal wedi dysgu cymaint yma.”

Bydd y Parque Ibérico de Natureza e Aventura (sef Parc Natur ag Antur Iberia) yr wyf yn ymwneud ag ef, yn fenter enfawr; mae’r rhan gyntaf bron iawn yn 100 hectar o ran maint. Mae’r holl syniad y tu ôl i’r Gelli Gyffwrdd wedi bod yn ysbrydoliaeth.”


Llwyddiant ysgubol y Bws

Mae’r bws newydd i’r Gelli Gyffwrdd wedi bod yn boblogaidd dros ben ac yr ydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth ar gael eto yn 2008. Mae’r holl fanylion a’r amserlenni i’w canfod ar y dudalen - How To Find Us. Mae’r gwasanaeth yn un rhagorol a dibynadwy, sy’n cyrraedd mynedfa’r Gelli Gyffwrdd bedair gwaith y dydd, a hynny drwy gydol y gwyliau ysgol.


Swyddi yn y Gelli Gyffwrdd

Mae yna swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd yn yr adrannau arlwyo a manwerthu, a hefyd ar gyfer cymeriadau mewn gwisgoedd a hyfforddwyr gweithgareddau, yn bennaf ar gyfer y chwe wythnos o ganol Gorffennaf hyd at ddiwedd Awst. Mae’n rhaid bod dros 18 oed. Ni osodir uwch derfyn oedran.

Llawr-lwythwch eich ffurflen gais yma neu ffoniwch 01248 671493.

 

Fun day out
things to do in snowdonia green dragon rollercoaster Attractions in Snowdonia
Copyright © 2008 GreenWood Forest Park North wales attraction web design by MG Media Solutions
GreenWood Forest Park family fun day Snowdonia North wales attraction things to do Snowdonia green dragon rollercoaster north wales rollercoaster attractions in north wales snowdonia roller coaster adventure playground outdoor fun for children events north wales snowdonia events GreenWood Forest Park fun family day fun day out family attraction fun adventure adventure park adventure park snowdonia north wales adventure park